Hoffech chi rannu eich profiadau darllen Cymraeg gyda ni?

RSS
Hoffech chi rannu eich profiadau darllen Cymraeg gyda ni?

Ydych chi'n mwynhau darllen llyfrau Cymraeg? Hoffech chi ddweud wrth bobl eraill pa lyfrau Cymraeg rydych chi wedi'u mwynhau?

Os felly, beth am ysgrifennu Adolygiad Llyfr i ni?

Mae Cant a mil yn croesawu adolygiad ar unrhyw lyfr sydd gyda ni yn y siop! Gallwch ddewis llyfr ar gyfer unrhyw gynulleidfa - pobl sy'n dysgu Cymraeg, plant bach, plant mawr, oedolion ifanc, oedolion - unrhyw un!

A HEFYD... am bob adolygiad rydym yn cynnwys yn ein Cylchlythyr Misol cewch ddewis llyfr gwerth hyd at £10 o'r siop... AM DDIM!

Ysgrifennwch tua 150 i 200 o eiriau am lyfr o'ch dewis ac wedyn anfonwch eich adolygiad at Jo yn Cant a mil.  Dyma'r cyfeiriad ebost:  jo@cantamil.com

Os oes unrhyw gwestiwn gyda chi mae croeso i chi ofyn i Jo.

Diolch yn fawr iawn a mwynhewch ddarllen!

  • Jo Knell