Yn dilyn llwyddiant pecyn cyntaf Cardiau Brwydro yn seiledig ar bwystfilod Cymreig, dyma’r ail becyn yn y gyfres boblogaidd. Gêm ‘top trumps’ gwreiddiol Cymraeg, mae’r pecyn hwn yn cynnwys cymeriadau o’r Mabinogi.

  • Pob pecyn yn cynnwys 30 o gardiau wedi’u darlunio gan Huw Aaron, cartwnydd y comig Mellten.
  • Dau ddull gwahanol i chwarae.
  • Addas ar gyfer dau chwaraewr neu fwy.
  • Mae pob gêm gyffrous yn cymryd tua 15 munud.

Oedran: 7+

Darlunydd: Huw Aaron

Cyhoeddwr: Atebol

Dyddiad: 2017